Pêl droed yr Urdd |
Bu timoedd pêl droed bechgyn a merched yr ysgol yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth yr Urdd ar gaeau Blaendolau'n ddiweddar. Er bod y ddau dîm wedi'u gosod mewn grwpiau cystadleuol iawn yn erbyn ysgolion mawr y Sir cafwyd gemau agos a chyffrous gyda'r bechgyn yn agos iawn i gyrraedd y rownd gynderfynol a'r merched yn colli o giciau o'r smotyn yn y rownd gynderfynol. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r hyfforddwyr Wyn, Karen a Bernard eleni eto a diolch hefyd i'r rhieni a aeth i gasglu'r plant ar fyr rybudd.
|