Croeso i dymor yr Hydref |
CLWB AR ÔL YSGOL Mae'r Clwb ar ôl Ysgol yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher ac Iau 3.30yp-5.30ph. £6.00 plentyn 1af, £4.00 i frodyr a chwiorydd. Cofiwch fod y clwb yn cau yn brydlon am 5.30yp
DIOGELWCH Mae’n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod i aelod o staff os oes unrhyw newidiadau i’r drefn arferol o gasglu’ch plentyn e.e. mynd i chwarae gyda ffrind, perthynas yn casglu.
DILLAD SBÂR Os ydy’ch plentyn wedi benthyg dillad sbâr gan yr ysgol, gofynnwn yn garedig i chwi eu dychwelyd nhw mor fuan â phosib. Hefyd byddwn yn ddiolchgar i dderbyn unrhyw ddillad sbâr fydd yn addas i blant y dosbarth derbyn.
ARIAN CINIO £2.45 y diwrnod, gyda phris wythnosol y prydau yn £12.25. Carwn annog rhieni i dalu ar ddydd Llun er mwyn bod mewn credyd yn hytrach nag mewn dyled.
AELODAETH YR URDD £7 yr un i’w dalu cyn hanner tymor (26ain o Hydref). Sieciau yn daladwy i ‘Urdd Gobaith Cymru’.
GWERSI ADDYSG GORFFOROL Bydd i bawb ddod â dillad ac esgidiau addas a photel o dd?r. Dosbarth Derbyn – Dydd Mercher Bl 1 a 2 – Dydd Iau Bl 3 a 4 – Dydd Mawrth Bl 5 a 6 – Dydd Mercher
SIOP FFRWYTHAU Er mwyn annog sgiliau rhif ac annibyniaeth bydd disgyblion blwyddyn 5 a 6 yn rhedeg siop ffrwythau yn ystod amser chwarae bore bob dydd. Pris ffrwyth fydd 30c y dydd neu £1.50 yr wythnos. Bydd angen i’r plant o flynyddoedd 1-6 ddod a’r arian i wario yn y siop ffrwythau. Bydd angen i ddisgyblion y dosbarth derbyn rhoi ei harian i Miss. Eleri fel arfer.
. |